Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith cyllidol newydd â’r bwriad o sicrhau datganoli pellach o bwerau a lefel tecach o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae’r fframwaith cyllidol yn datgan sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chyllido yn dilyn datganoli treth dir y dreth stamp, y dreth dirlenwi a chyfraddau treth incwm Cymru.

Bydd y fframwaith newydd yn cynnwys newidiadau i fformiwla Barnett, cynnydd yn yr hyn gall Llywodraeth Cymru ei fenthyg, sefydliad cronfa newydd i Gymru a chyflwyniad datganoliad dros bwerau treth incwm.

Mae’r diwygiadau i fformiwla Barnett yn cynnwys newid i’r fformiwla yn seiliedig ar anghenion, fel sy’n cael ei argymhell gan Gomisiwn Holtham, a newidiadau sy’n sicrhau bod newid poblogaeth yn cael ei drin yn gyson yng nghyllid grant bloc Llywodraeth Cymru.

Bydd uchafswm benthyca cyfalaf  cyffredinol yn cynyddu i £1 biliwn a’r uchafswm blynyddol i £150 miliwn a bydd cronfa unigol i Gymru’n cael ei chreu i alluogi Llywodraeth Cymru i reoli ei chyllideb yn well, gan gynnwys y refeniw treth newydd.

Datganoli treth incwm

Mae’r fframwaith hefyd yn amlinellu’r camau cyntaf er mwyn medru cyflwyno cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru ym mis Ebrill 2019, a hynny heb orfod cynnal refferendwm ar y mater.

“Mae’r pecyn yma o fesurau’n braenaru’r tir ar gyfer datganoli treth incwm yn rhannol yng Nghymru,” meddai Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford.

“Ond, yn allweddol, mae’n gwarchod ein cyllideb rhag yr ystod o risgiau diangen a allai godi yn dilyn datganoli pwerau trethu o 2018 ymlaen ac mae’n darparu hyblygrwydd ychwanegol i reoli ein hadnoddau.”

‘Chwyldro treth’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Adam Price AC, llefarydd busnes, yr Economi a Chyllid Plaid Cymru,  tra bod y fframwaith ei hun yn edrych yn addawol fod yn rhaid i’r ddadl esblygu o fod yn un am ddiwygio cyllido Cymru i fod yn un am sicrhau pwerau cyllidol ystyrlon a’r gallu i amrywio trethi yn ogystal â gallu benthyca mwy er mwyn i Gymru sicrhau cydraddoldeb gyda gweddill y Deyrnas Unedig.

“Mae’r cytundeb hwn yn nodi’r foment pan fo’n rhaid i wleidyddiaeth Cymru symud o gyllido i bwerau. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddadlau o blaid chwyldro treth, ar sail polisi rhanbarthol goleuedig i Gymru.

“Nid ras i’r gwaelod fyddai hon – yn anffodus, rydym eisoes ar y gwaelod. Byddai hyn yn fodd o adael y rhigol economaidd y mae Cymru ynddo ar y funud. Dim ond gwledydd y DG sydd gyda 90% o GVA y DG ddylai gael yr hawl i ddefnyddio’r polisi treth rhanbarthol hwn.

“Dylai’r gallu i amrywio trethi – gan gynnwys cyfraniadau yswiriant cenedlaethol cyflogwr, credydau treth Ymchwil a Datblygiad, a mwy o lwfansau cyfalaf – fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru. Rhaid i hyn fod yn un o’i phrif ofynion wrth adolygu’r fframwaith ffisgal, fel y mae ganddynt yr hawl i’w wneud bob pum mlynedd.”