Mae rhieni plant ysgol yn Hwlffordd wedi cael rhybudd i fod yn wyliadwrus ar ôl i ddieithryn gysylltu â phlant yn gofyn iddyn nhw rannu delweddau anweddus.

Mae ysgol Sir Thomas Picton a Heddlu Dyfed-Powys yn ymwybodol o’r sefyllfa.

Mae’r heddlu’n dweud y dylai rhieni roi gwybod iddyn nhw os ydyn nhw’n gweld unrhyw beth amheus.