(Llun: Gwasanaeth Ambiwlans)
Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans wedi ymddiheuro ar ôl adroddiadau bod dynes o Gaerdydd oedd wedi torri ei choes wedi aros dros bump awr am ambiwlans.

Cwympodd y ddynes 43 ar balmant yn ardal Trelái toc wedi 10 o’r gloch fore ddoe.

Roedd ei chymydog, Jackie Whiller mewn cyswllt cyson â’r Gwasanaeth Ambiwlans drwy wefan gymdeithasol Twitter ar ôl cyfres o alwadau ffôn.

Awgrymodd y Gwasanaeth Ambiwlans y dylai fynd i’r ysbyty mewn tacsi, ond roedden nhw hefyd wedi dweud mewn galwad flaenorol na ddylid ei symud.

Yn y neges olaf rhwng Jackie Whiller a’r Gwasanaeth Ambiwlans, dywedodd derbynnydd wrthi am “ffonio nôl os yw’r claf i’w gweld yn gwaethygu”.

Aed â hi i’r ysbyty yn y pen draw, a threulio’r noson yno ar ôl cael gwybod ei bod hi wedi torri ei choes mewn dau le.