Mae adroddiadau na fydd prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland yn dychwelyd i’w swydd ar ôl taith y Llewod i Seland Newydd haf nesaf.

Yn ôl y Daily Mail, mae’r gŵr o Seland Newydd yn awyddus i ddychwelyd i fyw at ei deulu ar ôl treulio cyfnodau hir i ffwrdd dros y naw mlynedd diwethaf.

Mae lle i gredu ei fod e wedi dweud wrth ffrindiau ei fod yn barod i gefnu ar Gymru er bod ganddo fe gytundeb tan ar ôl Cwpan y Byd yn 2019.

Mae’r Daily Mail yn adrodd mai’r cyn-gapten a chyfarwyddwr rygbi’r Picwns Dai Young fyddai ffefryn Undeb Rygbi Cymru i olynu Warren Gatland.