Derwen Brimmon (Llun: T Williams/WTML o wefan Coetir Cymru)
Mae coeden hynafol y bu ffrae yn ei chylch wrth ddatblygu ffordd osgoi yn Y Drenewydd wedi cael ei henwi’n Goeden Gymreig y Flwyddyn yn dilyn pleidlais gyhoeddus.

Mae Derwen Brimmon ar y safle lle’r oedd y ffordd osgoi i fod i gael ei hadeiladu’n wreiddiol, cyn i wrthwynebiad gan bobol leol olygu bod rhaid i Lywodraeth Cymru addasu eu cynlluniau.

Cafodd enillwyr y gystadleuaeth o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon eu cyhoeddi mewn rhaglen arbennig ar Channel 4 wedi’i chyflwyno gan yr actor a’r digrifwr Ardal O’Hanlon.

Cafodd mwy na 18,000 o bleidleisiau eu bwrw, a chafodd Derwen Brimmon ei dewis gan feirniaid ar y rhaglen fel y goeden orau o blith 28 ar y rhestrau byrion ar draws holl wledydd Prydain.

Bydd y pedwar enillydd yn cynrychioli eu gwledydd yng nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn ym mis Chwefror, ac yn derbyn grant gofal o £1,000 i’w ddefnyddio at ddibenion cynnal a chadw, creu deunyddiau dehongli neu i gynnal dathliad.

Derwen Brimmon

Roedd y dderwen hon yn y penawdau yn 2009 ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod cynlluniau ar y gweill i’w thorri er mwyn creu lle ar gyfer ffordd osgoi newydd.

Prif wrthwynebydd y cynlluniau oedd Mervyn Jones, tirfeddiannwr lleol, oedd yn dadlau bod y goeden wedi bod yn bwysig iddo yntau a’i deulu ers cenedlaethau.

Cytunodd peirianwyr i symud y goeden o’r ffordd, ond roedd Mervyn Jones yn dadlau y gallai hynny arwain at ei thranc, ac fe gytunodd y peirianwyr i symud y llwybr ychydig.

Ond byddai’r llwybr yn dal o fewn 3.5 metr i’r goeden ac yn bygwth ei gwreiddiau.

Magodd yr ymgyrch goesau ar ôl i Mervyn Jones gomisiynu adroddiad arbenigol, gan roi tystiolaeth am ddwy awr yn ystod ymchwiliad cyhoeddus.

Fe lansiodd ymgyrch Facebook gyda chymorth yr ymgyrchydd coed Rob McBride, gan ddenu tua 5,000 o lofnodion ar ddeiseb i’r Cynulliad.

Yn y pendraw, cytunodd Llywodraeth Cymru i amrywio’r llwybr dipyn bach mwy yn y gobaith o achub y goeden.

Yn dilyn cyhoeddi’r canlyniadau, dywedodd Prif Weithredwr Coed Cadw, Beccy Speight mewn datganiad: “Mae coed yn ein hysbrydoli mewn cymaint o ffyrdd ac mae ein pedwar enillydd yn dangos yn glir sut rydym yn gwerthfawrogi’r tirnodau naturiol hyn.

“Maent yn atalnodi ein bywydau a thirweddau ac yn ein cysylltu ni â’n gorffennol, yn debyg i’n hen adeiladau gorau ni, ond yn wahanol iddyn nhw, heb warchodaeth arbennig, hyd yn hyn.”

Y coed eraill o Gymru ar y rhestr fer oedd:

– Derwen Hwyl, Hafod y Llan, Beddgelert

– Derwen Gregynog, Powys

– Castanwydden Bêr Bodnant yng Ngerddi Bodnant, Dyffryn Conwy

– Derwen y Castell, Parc Dinefwr, Llandeilo

– Derwen Cwm yr Esgob, ger Rhaeadr Gwy