Mark Isherwood
Mae gwleidydd wedi galw am ysgol yn y gogledd i droseddwyr ifanc difrifol, a hynny er mwyn rhoi addysg a hyfforddiant arbennig i’r plant.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad Mark Isherwood, mae angen i Lywodraeth Cymru ddilyn esiampl Lloegr a chydweithio â Llywodraeth Prydain i sefydlu’r fath ysgolion.

Yng nghyfarfod llawn y Cynulliad dydd Mercher, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau, Carl Sargeant, na fyddai Llywodraeth Cymru yn creu ysgolion i droseddwyr.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y bydd yn creu dwy ysgol ddiogel i droseddwyr, a fydd yn canolbwyntio ar Saesneg, Mathemateg a hyfforddiant gwaith.

Ond yn ôl Carl Sargeant, nid dyma’r ffordd “cywir na phriodol” o helpu pobol ifanc, gan ddweud “na ddylwn ni fod yn carcharu ein pobol ifanc; ond yn eu cefnogi ymlaen llaw”.

Ond yn ôl y Tori Mark Isherwood mae sylwadau’r Ysgrifennydd yn “anghyfrifol”.

“Mae ysgolion diogel yn opsiwn gwell na charchardai plant,” meddai Mark Isherwood.

“Tra bod pobol ifanc dan glo mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael yr addysg a hyfforddiant cywir fel eu bod yn gallu byw eu bywydau dan reolau’r gyfraith, a gwneud ein strydoedd a’n cymunedau yn fwy diogel hefyd.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.