Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi lansio apêl i geisio dod o hyd i ddau gyn-gystadleuydd.

Gwnaeth  ‘Thespis’ ac ‘Un o’r Cwm’ gyfieithu Who’s Afraid of Virgina Woolf yn Eisteddfod Bro Morgannwg bedair blynedd yn ôl, ac yn dilyn cais am gopi o’r cyfieithiad mae’r Eisteddfod wedi gofyn iddyn nhw ddatgelu eu hunain.

Roedd y ddau gystadleuydd yn aflwyddiannus yn y gystadleuaeth cyfieithu neu drosi drama, felly mae eu henwau go-iawn wedi eu storio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod Elen Elis: “Gobaith pob dramodydd a’r sawl sy’n cyfieithu drama neu waith yw y bydd y gwaith yn gweld golau dydd, ac rydym yn awyddus i siarad gyda ‘Thespis’ ac ‘Un o’r Cwm’ er mwyn ceisio gwireddu hyn.”

Dylai ‘Thespis’ ac ‘Un o’r Cwm’ gysylltu gyda Sioned Edwards yn Swyddfa’r Eisteddfod drwy e-bostio sioned@eisteddfod.org.uk  neu ffonio’r swyddfa ar 0845 4090 300.