Cofio Jo Cox (Llun Parth Cyhoeddus CCA0.1)
Mae aelodau seneddol o Gymru ymhlith cyfranwyr ar record i gofio’r gwleidydd Jo Cox a gafodd ei llofruddio ynghanol ymgyrch y refferendwm Ewropeaidd.

Un o’r trefnwyr yw Kevin Brennan, AS Gorllewin Caerdydd, sy’n aelod o fand roc Tŷ’r Cyffredin MP4, ac mae AS Wrecsam, Ian Lucas, ac AS Canol Caerdydd, Jo Stevens, ymhlith y rhai sy’n canu yn y cefndir.

Mae sêr fel K t Tunstall, Steve Harvey a Ricy Wilson o’r Kaiser Chiefs yn cymryd rhan, ynghyd â’r canwr David Gray a gafodd ei fagu yn Solfach yn Sir Benfro.

Codi arian

Trwy recordio cân y Rolling Stones, You Can’t Always Get What You Want, fe fyddan nhw’n codi arian at Sefydliad Jo Cox sy’n cael ei sefydlu i gyfrannu at rai o’r achosion oedd yn agos at galon y gwleidydd o Swydd Efrog.

Roedd hi wedi ymgyrchu tros ffoaduriaid ac wedi pledio achos mewnfudwyr cyn iddi gael ei llofruddio gan eithafwr asgell dde o’r enw Thomas Mair, 53 oed, sydd bellach wedi ei garcharu am oes.

Mae’r gân yn cael ei chyhoeddi heddiw.

– 0:02:38