O wefan Estyn
Mae adroddiad newydd yn dweud bod cyfrifon ac adroddiadau blynyddol rhai o brif gyrff addysg Cymru yn fwy tryloyw a haws eu deall nag yn y gorffennol – ond bod yna le i wella.

Ac mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad wedi codi pryder am agweddau ar sefyllfa ariannol rhai o’r cyrff – yn enwedig y corff archwilio ysgolion, Estyn – i gynllunio ar gyfer yr hirdymor.

Roedd y pwyllgor wedi bod yn archwilio cyfrifon pump sefydliad cyhoeddus ym maes addysg – Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Estyn, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Gyrfa Cymru.

Pryder am gynllunio

Mae’r adroddiad yn codi pryder dros Estyn yn bennaf, am “nad yw’n gallu cadw unrhyw gronfeydd” ariannol o flwyddyn i flwyddyn ac felly’n methu edrych am arbedion i wneud toriadau yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynllunio ei chyllideb am gyfnod hirach na bob blwyddyn.

Roedd pryderon hefyd o ran trefniadau diswyddo gwirfoddol yn y gwahanol sefydliadau, gyda’r adroddiad yn nodi bod rhaid ystyried yr effaith ar staff.

‘Angen sicrhau’ gwerth am arian

“Mae’r Pwyllgor yn fodlon bod cynnydd ar waith o ran cyflwyno cyfrifon clir a hygyrch gan sefydliadau sector cyhoeddus,” meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Mae’n gobeithio bod ymchwiliad y Pwyllgor yn golygu y bydd cyrff cyhoeddus yn bod yn fwy gofalus wrth wario arian trethdalwyr yn y ffyrdd mwya’ effeithiol.

“Er i’n hymchwiliad eleni ganolbwyntio’n bennaf ar y sector addysg, byddem yn gobeithio y byddai holl gyrff y sector cyhoeddus yn nodi ein hargymhellion ac yn mabwysiadu dull tryloyw wrth baratoi eu cyfrifon eu hunain yn y dyfodol,” meddai.