Gordon Anglesea
Mae cyn-bennaeth Heddlu Gogledd Cymru, a gafodd ei garcharu am ymosod yn anweddus ar fechgyn yn eu harddegau yn yr 1980au, wedi marw.

Bu farw’r cyn-Uwch Arolygydd, Gordon Anglesea, 79, o Hen Golwyn, yn yr ysbyty yn dilyn salwch byr.

Fe gadarnhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ei farwolaeth, gan ddweud y bydd ymchwiliad llawn i’r amgylchiadau.

“Bu farw’r carcharor, Gordon Anglesea, o garchar Rye Hill, Swydd Warwick yn yr ysbyty heddiw am tua 9:30 y bore,” meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai.

“Fel gyda phob marwolaeth yn y carchar, bydd yr Ombwdsmon annibynnol i Garchardai a’r Gwasanaeth Prawf yn ymchwilio.”

Cefndir

Roedd Gordon Anglesea wedi cael ei garcharu am 12 mlynedd ym mis Tachwedd eleni am ymosod yn anweddus ar ddau fachgen rhwng 1982 a 1987 pan roedden nhw’n 14 a 15 oed.

Roedd yn dad i bump o blant ac yn gwadu’r cyhuddiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn llanciau mewn canolfan i droseddwyr ifanc ac yng nghartref Bryn Alyn.

Yn 1994, enillodd iawndal o £375,000 tros yr honiadau yn ei erbyn, ar ôl dod ag achos enllib yn erbyn y cyclchgrawn Private Eye, papurau’r Independent a’r Observer a chwmni teledu ITV.

Roedd wedi cael ei garcharu am 12 mlynedd am ymosod yn anweddus ar ddau fachgen rhwng 1982 a 1987 pan roedden nhw’n 14 a 15 oed.

Ym mis Tachwedd, roedd wedi lansio apel yn erbyn y dyfarniadau.