Mochyn daear
Mae’r nifer sydd wedi ymateb i ymgynghoriad ar TB Gwartheg wedi bod yn siomedig, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, mai dim ond 18 sydd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar gynlluniau i ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru.

Mae pwysau wedi bod arni i gyflwyno cynllun difa moch daear ac er bod yr Ysgrifennydd wedi bod yn gyndyn i wneud hynny, mae cynlluniau ar y gweill a allai olygu bod moch daear yn cael eu lladd.

Os bydd prawf mai moch daear sy’n gyfrifol am drosglwyddo’r clefyd mewn achos penodol, mae cynnig bod y grwpiau heintiedig o foch daear yn cael eu trapio a’u lladd yn ddi-boen.

Mae hyn yn dod o “wersi a ddysgwyd” yn ystod y cynllun peilot yng Ngogledd Iwerddon.

Sefydlu ardaloedd TB gwahanol

Bydd yr ymgynghoriad hwn, sy’n dod i ben ar 10 Ionawr, yn arwain at ardaloedd TB Isel, TB Canolradd a TB Uchel i gael eu sefydlu ar draws Cymru ar sail nifer yr achosion o TB sydd yn yr ardal.

Ar ôl sefydlu’r ardaloedd, bydd cynlluniau gwahanol ar gyfer pob ardal ar sut i ddelio â TB mewn gwartheg.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn barn bobol am y mesurau ar gyfer diogelu Ardaloedd TB Isel a lleihau’r achosion o’r clefyd yn yr Ardaloedd Canolradd ac Uchel.

Bydd hynny’n cynnwys:

  • Cyflwyno Cynllun Prynu Doeth gorfodol i helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ffeithiau am iechyd y gwartheg y maen nhw am eu prynu;
  • Gosod cosbau ar yr iawndal sy’n cael ei dalu ar gyfer gwartheg sy’n cael eu symud o fewn ardal sydd dan gyfyngiadau;
  • Gostwng y cap ar iawndal TB i £5,000. Mae’r Llywodraeth yn dweud na fydd hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffermwyr ond bydd yn arbed rhyw £300,000 y flwyddyn.

Galw am ymateb

“Rydym bellach tri chwarter o’r ffordd trwy ymgynghoriad 12 wythnos ar adfywio’r Rhaglen Dileu TB ac rwy’n siomedig mai dim ond 18 o unigolion sydd wedi ymateb hyd yma.

“Mewn digwyddiadau diweddar, mae ffermwyr wedi bod yn dod ata’i gan ddweud eu barn yn groch am y cynigion, felly mae’n amlwg ei fod yn bwnc pwysig iawn i’r diwydiant. Testun syndod felly yw’n bod wedi cael cyn lleied o ymatebion.

“Byddwn yn falch o glywed barn am bob agwedd ar y cynigion a hoffem weld pawb y mae’r pwnc wedi effeithio arnyn nhw yn dod i ddweud eu dweud cyn i’r ymgynghoriad gau mewn cwta dair wythnos. Byddwn yn ystyried pob ymateb cyn cyflwyno Rhaglen Dileu TB ddiwygiedig yn y gwanwyn.”