Simon Thomas AC
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Sbaen i ailfeddwl ynglyn â dwyn achos llys yn erbyn Llywydd Senedd Catalwnia.

Mae Carme Forcadell yn wynebu achos llys am iddi ganiatáu dadl ar ddyfodol cyfansoddiadol Catalwnia. Os y bydd y llys yn ei chael yn euog, fe allai gael ei dirwyo hyd at £25,000, a chael ei gwahardd o’i swydd, ac fe allai wynebu achos cyfreithiol pellach.

“Mae Llywydd Senedd Catalwnia yn wynebu achos llys yn Sbaen am ganiatáu trafodaeth ar ddyfodol cyfansoddiad Catalwnia – hynny yw, caniatáu trafodaeth yn Senedd Catalwnia am annibyniaeth,” meddai Simon Thomas, Aelod Cynulliad Plaid Cymru tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

“Rydym ni i gyd yn gwybod bod Sbaen yn sensitif iawn ynglŷn â’r cwestiwn o annibyniaeth.

“Ond, mewn gwlad ddemocrataidd, fel rydym ni wedi’i weld yn yr Alban ac fel rydym ni’n gweld fan hyn yng Nghymru hefyd, mae trafodaeth am ddyfodol cenedl yn hollbwysig i ddangos bod cenedl yn gallu symud ar y broses yna, gam wrth gam, gyda’i gilydd.

“Gofynnais i’r Prif Weinidog i godi’r achos gyda Llywodraeth San Steffan, gan fynegi ein pryder bod Llywydd Seneddol yn wynebu achos lys am ganiatáu dadl mewn Senedd,” meddai Simon Thomas.