Mae’r heddlu wedi dod o hyd i rwydwaith o werthwyr canabis mewn sawl ardal yn y de wrth iddyn nhw ymchwilio i fwrgleriaeth bosib.

Daethon nhw o hyd i ganabis mewn tŷ yn Y Barri ar  Dachwedd 27, ynghyd â dogfennau oedd yn cysylltu’r eiddo â thŷ arall yn Aberdâr.

Ar ôl mynd i’r ail dŷ, daeth yr heddlu o hyd i 32 o blanhigion canabis yn tyfu yno, ynghyd ag offer i’w baratoi i’w werthu.

Mae lle i gredu bod y planhigion gyda’i gilydd yn cyfateb i werth £35,000 o ganabis.

Cafodd tŷ yn Ninas Powys ei archwilio’n ddiweddarach, lle cafodd dyn 26 oed ei arestio ar amheuaeth o gamdrin arian a chynhyrchu canabis.

Aeth yr heddlu â rhagor o ganabis, ffonau symudol, gwerth £18,000 mewn arian parod, BMW a thri beic modur oddi yno.

Cafodd dyn 28 oed o’r Barri ei arestio ar amheuaeth o’r un troseddau ar Ragfyr 11. Mae’r ddau wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth erbyn hyn wrth i’r ymchwiliad barhau.