Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi darganfod beth sy’n achosi math marwol o glefyd motor niwron.

Mae ymchwil, o dan arweiniad yr Athro William Griffiths o Ysgol Feddygol y brifysgol, hefyd wedi arwain at ddarganfod ffordd gynt o drin cyflwr ALS (Sglerosis llorweddol amiotroffig).

Daeth y cyflwr i’r amlwg am y tro cyntaf yn 2014 wrth i filiynau o bobol ymgymryd â’r her bwced iâ i godi arian at ymchwil ar gyfer y cyflwr, sydd hefyd yn cael ei adnabod wrth yr enw afiechyd Lou Gehrig.

Mae’n afiechyd sy’n ymosod ar y system nerfau, ac mae gan ddioddefwyr lefelau uwch o golesterol o amgylch yr ymennydd na phobol nad ydyn nhw’n dioddef o’r cyflwr. Gall dioddefwyr gael eu parlysu a chael problemau wrth anadlu.

Mae’r driniaeth sy’n cael ei chynnig gan y gwyddonwyr yn lleihau lefelau colesterol o amgylch yr ymennydd.

“Ry’n ni’n credu bod pobol a chanddyn nhw ALS yn methu gwaredu colesterol o’r ymennydd mewn modd effeithiol, sy’n gwneud i’r afiechyd ymddangos,” meddai’r Athro William Griffiths.

Mae papur ymchwil y tîm wedi cael ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn y Journal of Lipid Research, ac wedi cael sylw mewn cylchgrawn yn yr Unol Daleithiau.