Mae gogledd Cymru yn cael ei henwi’n bedwaredd rhanbarth gorau’r byd ar gyfer twristiaid yn 2017, yn ol llawlyfr y Lonely Planet.

Choquequirao ym Mheriw ddaeth i’r brig, tra bod Taranaki yn Seland Newydd yn ail, a’r Açores ym Mhortiwgal yn drydydd.

Mae’r cyhoeddiad yn tynnu sylw at “afonydd troellog a mynyddoedd llynnoedd a rhaeadrau godidog” ardal gogledd Cymru, ynghyd â’i “thraethau delfrydol, trefi marchnad tawel, mannau gwyliau bywiog, cestyll a lluo o atyniadau diwylliannol a dewisiadau adloniant”.

Mae hefyd yn cyfeirio at statws awyr dywyll yr ardal a gafodd ei rhoi am ansawdd yr awyr lân.

Dywed y Lonely Planet hefyd fod parc antur Surf Snowdonia yn “angenrhaid i unrhyw un â synnwyr o antur”, a bod Neuadd Caer Rhun yn “gilfach wledig Fictorianaidd hard yng nghalon Dyffryn Conwy” ac yn “un o westai mwyaf ecsgliwsif y rhanbarth i westeion, priodasau a chynadleddau”.