Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Mae blogiwr o Ben-y-bont ar Ogwr sydd fel arfer yn crynhoi sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd wedi penderfynu mynd ar streic heddiw.

Mae tua 2,000 yn darllen blogiau Owen Donovan, ond mae wedi penderfynu peidio â chyhoeddi’r hyn sy’n digwydd yn y Siambr yn ystod sesiwn ola’r flwyddyn er mwyn dangos cefnogaeth i achos Jacqui Thompson.

Mae Jacqui Thompson o Lanwrda yn wynebu gorfod gwerthu ei thŷ er mwyn talu iawndal i Brif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, yn dilyn achos cyfreithiol.

Gwrthod cynnal dadl

Yr wythnos ddiwetha’, fe wnaeth dau Gynghorydd Plaid Cymru, Alun Lenny a Cefin Campbell gyflwyno Rhybudd Gynnig yn galw ar Gyngor Sir Gâr i gynnal dadl ynglŷn â’r penderfyniad i orfodi’r ddynes i werthu ei chartref.

Ond cafodd yr ymgais ei wrthod ac mewn neges gyhoeddus yr wythnos ddiwethaf esboniodd Alun Lenny: “rydym yn derbyn yn llwyr y bu dyletswydd ar y cyngor blaenorol i amddiffyn ei brif swyddog yn yr Uchel Lys yn erbyn cyhuddiad o enllib. Rydym hefyd yn derbyn hawl personol y Prif Weithredwr i lansio achos gwrth-enllib i ddiogelu ei enw da.

“Fodd bynnag, yr ydym nawr yn pryderu fod hawlio iawndal a chostau yn cael yr effaith wrthnysig o niweidio enw da’r cyngor hwn a’i Brif Weithredwr.

“Rydym yn annog y Prif Weithredwr a’r Bwrdd Gweithredol i geisio ffyrdd o setlo’r mater yma mewn modd na fydd yn arwain at Mrs Thompson yn colli ei chartref.”

‘Cynsail peryglus’

Ychwanegodd y blogiwr Owen Donovan fod yr achos yn “gosod cynsail peryglus ar gyfer gweddill y wlad drwy wthio ffiniau am ymddygiad derbyniol gan Brif Weithredwr.”

Esboniodd fod Jacqui Thompson wedi mynd ar gais Plaid Cymru am gymorth ac wedi cael cefnogaeth gan yr Aelod Cynulliad Adam Price, ond mae Owen Donovan yn gofyn ar ei flog pam nad oes mwy wedi’i wneud.

“Gall ACau a Llywodraeth Cymru ddweud fod hwn yn fater cyfreithiol preifat neu’n fater i’r llywodraeth leol ac yn ddim i’w wneud gyda nhw – ond doedd e ddim. Daeth hwn yn rhan o’u busnes nhw’r funud y daeth arian cyhoeddus yn rhan ohono ac mae ACau wedi bod â digon i’w ddweud ar faterion sydd ag elfen farnwrol yn y gorffennol.

Y cefndir

  • Cafodd Jacqui Thompson o Lanwrda – awdur blog ‘Carmarthenshire Planning Problems and more’ – ei herlyn gan Gyngor Sir Gâr am y tro cynta’ yn 2011, ar ôl iddi wrthod rhoi’r gorau i ffilmio cyfarfod o’r cyngor i’w gyhoeddi ar y blog.
  • Mae’n wynebu gorfod talu gwerth £35,392 o gostau enllib a £190,390 o gostau cyfreithiol i Mark James, Prif Weithredwr y cyngor ar ôl iddi golli achos llys yn ei erbyn.
  • Cyngor Sir Gâr dalodd am gostau cyfreithiol Mark James ond fe benderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru yn ddiweddarach bod hynny’n ‘anghyfreithlon’.