Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu lansio Banc Datblygu yn hanner cynta’ 2017.

Y bwriad ydi darparu mwy na £1biliwn o gymorth ariannol i fusnesau bach Cymru dros y pum mlynedd nesa’.

Bydd y banc yn dilyn prosiectau tebyg gan y Llywodraeth fel Cyllid Cymru, ac y bwriad yw bydd yn creu ac yn diogelu dros 5500 o swyddi’r flwyddyn erbyn 2022.

Fis diwethaf, fe gadarnhaodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates ei ddymuniad i weld sefydlu pencadlys y Banc Datblygu yng ngogledd Cymru.

Help hanfodol i fusnesau

“Er bod marchnadoedd yng Nghymru wedi bod yn ailagor yn araf, ond yn gyson, ers y chwalfa gredyd, rydyn ni’n gwybod bod diffygion o hyd yn y farchnad mewn meysydd fel busnesau micro a bach, busnesau newydd a busnesau entrepreneuraidd lle nad yw model y busnes wedi’i brofi eto,” meddai Ken Skates.

“Bydd Banc Datblygu Cymru’n rhoi help hanfodol i fusnesau o’r math hwn, gan eu helpu i gael at ffynonellau ariannu arloesol fel cyllido torfol.”