Ffoaduriaid o Syria Llun: PA
Fe fydd murlun gyda negeseuon o groeso i ffoaduriaid yn cael ei arddangos am y tro cyntaf heddiw yn Aberystwyth.

Rhan o ymgyrch Sefyll Fel Un yw’r prosiect, sydd wedi ei drefnu ar y cyd rhwng Oxfam Cymru, yr artist Valériane Leblond, a disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

Mae’r murlun yn cynnwys negeseuon o groeso gan drigolion Aberystwyth a gasglwyd yn siopau Oxfam.

“Mae blwyddyn gyfan wedi pasio ers i’r ffoaduriaid cyntaf gyrraedd Cymru, ac mae’r murlun hyfryd hwn yn dangos y gefnogaeth a’r croeso mae pobl ardal Aberystwyth wedi ei ddangos i’r teuluoedd sydd wedi ymgartrefu yn yr ardal,” meddai Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru.

“Wrth i ni arddangos y murlun rydym hefyd yn ymfalchïo yn y newyddion y bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi ailgartrefu ffoaduriaid o Syria erbyn y Nadolig, sy’n dangos gwir ymateb cenedlaethol i’r argyfwng.”

Cyrhaeddodd y ffoaduriaid cyntaf o Syria i Aberystwyth Rhagfyr diwethaf trwy gynllun ailgartrefu Llywodraeth Prydain ac ers hynny  mae 11 o ffoaduriaid wedi dod i fyw i Geredigion, a chyfanswm o 294 o ffoaduriaid wedi setlo yng Nghymru.