Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dynes 58 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ger Aberhonddu’r wythnos diwethaf.

Bu farw Diana Price o ardal Aberhonddu yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 ger Llanspyddid ddydd Gwener, Rhagfyr 9.

“Mae ein meddyliau gyda’r teulu yn ystod y cyfnod trist hwn,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Cafodd dynes arall, 21 oed, hefyd ei chludo i’r ysbyty wedi’r digwyddiad