Amy Wadge ac Ed Sheeran yn y Grammys 2016 (Llun o wefan y Grammys)
Mae’r gantores a’r gyfansoddwraig Amy Wadge, sy’n byw ym Mhontypridd, wedi datgelu mai hi a’r canwr Ed Sheeran gyfansoddodd cân fuddugol yr X Factor eleni.

Mewn neges ar Twitter dywedodd Amy Wadge: “Dyma’r peth, ysgrifennodd Ed Sheeran a mi gân rai wythnosau’n ôl, anfonodd Ed hi at Simon Cowell a nawr dyma sengl yr enillydd ar X Factor.”

Enw’r gân ydy ‘When Christmas Comes Around’ a Matt Terry, 23 oed, ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth ddaeth i’w therfyn ar ITV neithiwr.

Mae Amy Wadge ac Ed Sheeran wedi cydweithio droeon yn y gorffennol, ac ym mis Tachwedd enillodd wobrau cymdeithas cyfansoddwyr awduron a chyhoeddwyr America am ei chân ‘Thinking Out Loud’.

Roedd Amy Wadge eisoes wedi ennill gwobr Grammy am y gân oedd wedi ei chyfansoddi ar y cyd â’r canwr Ed Sheeran.

Mae Amy Wadge yn byw ym Mhontypridd ac yn canu yn Gymraeg â’r Saesneg.