Mae un dyn wedi cael ei arestio ac mae’r chwilio am ddyn arall yn parhau ar ôl i gar yr heddlu gael ei ddifrodi yn Abertawe fore dydd Sul.
Cafodd ffenest y car ei thorri gan y ddau ddyn ar feiciau modur Kawasaki yn ardal Treforys y ddinas am oddeutu 1.40yb.
Mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio, ond fe lwyddodd ail ddyn i ddianc.
Mae Heddlu’r De wedi apelio am wybodaeth.