Fe gafodd gwraig 58 oed ei lladd mewn damwain ffordd ger Aberhonddu fore Gwener.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn dal i ymchwilio i amgylchiadau’r gwrthdrawiad rhwng dau gar ar briffordd yr A40 ger Llanspyddid, Powys.

Fe gafodd dynes 21 mlwydd oed hefyd ei chludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.