Mae dyn o Gaerdydd wedi’i garcharu am bum mlynedd wedi iddo geisio blacmelio dyn yr oedd wedi’i gyfarfod ar wefan dod o hyd i gariad.
Roedd Liam Stephen Hatcher, 25, o Dremorfa, wedi bygwth dweud wrth yr heddlu fod y dyn yr oedd wedi’i gyfarfod ar-lein wedi’i dreisio – oni bai fod y dyn hwnnw’n talu £6,000 iddo.
Pan wrthododd y dyn dalu, fe gafodd ei roi drwy’r felin gan Liam Hatcher. Fe gafodd ei guro, ei yrru yn ei gar ei hun o un peiriant twll yn y wal i’r nesa’ a’i orfodi i godi arian; ac fe gafodd eitemau gwerthfawr eu dwyn o’i gartre’.
Roedd Liam Hatcher wedi pledio’n euog i flacmêl mewn ymddangosiad llys blaenorol.