Mae dyn o Ynys Môn, ynghyd â dau arall, wedi cael eu carcharu am gynllwynio i gyflenwi gwerth miliynau o bunnoedd o gocên.

Cafodd Ian Paul McGuigan, dyn 39 oed o’r Ynys, ei gyhuddo hefyd o drosedd yn ymwneud ag arfau tanio.

Cafodd ei ddedfrydu am wyth mlynedd o garchar am gynllwynio a phum mlynedd am y drosedd arall yn Llys y Goron Caernarfon.

Pedair blynedd ac wyth mis yr un yn y carchar cafodd y ddau ddyn arall, sef Anthony Donovan, 33, a Brian Townsend, 36, o Lerpwl.

Dod o hyd i gocên mewn cae

Ar 5 Medi, fe wnaeth yr heddlu ffilmio Ian McGuigan yn ei gartref yn Nhŷ Croes, Ynys Môn, a’i ddal yn delio â dros £35000 mewn arian i Anthony Donovan a Brian Townsend oedd yn gyfrifol am ddelifro’r cyffuriau.

Cafodd Ian McGuigan ei weld yn derbyn 1 cilogram o gocên, cyn teithio gyda’r dynion o Lerpwl i gau ger Tŷ Croes i gadw’r cocên.

Ar ôl dau ddiwrnod o chwilio, cafodd yr heddlu hyd i gilogram arall o gocên – gwerth rhwng £117000 a £176000 – wedi’i guddio yn y cae.

“Brenin Cyffuriau Môn”

“Roedd Ian Paul McGuigan yn cael ei adnabod fel ‘Brenin Cyffuriau Môn’ ond mewn gwirionedd roedd yn targedu pobol fregus yn ein trefi a’n pentrefi wrth bortreadu ei hun fel gwerthwr ceir a bridiwr ceffylau cyfiawn,” meddai’r Prif Dditectif Arolygydd, Brian Kearney.

“Cyn iddo gael ei arestio’n ddiweddar, roedd yn credu nad oedd neb yn gallu ei gyffwrdd.

“Roedd busnes troseddol Ian Paul McGuigan gwir wedi dinistrio bywydau yn ein cymuned. Roedd ganddo ddigon o asid borig yn ei feddiant i dorri gwerth rhwng 1.4 a 2.1 miliwn o bunnoedd o gocên.

“Rydym yn croesawu’r dedfrydau a gafodd eu rhoi heddiw ac wrth iddyn nhw ddechrau eu cyfnod yn y carchar, dw i’n gobeithio y byddan nhw’n sylwi nad yw dod â chyffuriau i ogledd Cymru byth yn talu.

“Hoffem sicrhau’r gymuned rydym yn gwasanaethu, nad oes neb yn anghyffyrddadwy a gyda’ch help, cefnogaeth a gwybodaeth, gallwn dargedu’r rhai sy’n achosi’r niwed fwyaf yn effeithiol.”