Sally Holland
Yn dilyn cyhoeddiad ystadegau gan yr NSPCC mae Comisiynydd Plant Cymru yn dadlau bod hunan niweidio yng Nghymru yn waeth nag mae ystadegau yn awgrymu.

Mae Sally Holland wedi dweud wrth golwg360 mai ond “cyfran fach o blant sydd yn hunan niweidio” sydd yn niweidio’i hunain gymaint bod yn rhaid iddyn nhw fynd i’r ysbyty, sy’n golygu gall fod y ffigwr llawer uwch nac mae ystadegau yn awgrymu.”

Dywedodd mai “nifer isel o’r plant sydd yn niweidio’i hunain sydd gorfod mynd i’r uned damwain ac argyfwng, a’r ysbyty” a gan fod “hunan niweidio yn aml yn weithred breifat a chudd” mae ehangder y broblem mwy na thebyg heb ei hadlewyrchu yn iawn yn adroddiad yr NSPCC.

Mae’n bwysig ein bod yn mynd ati i daclo’r broblem yn iawn meddai Sally Holland.

“Er mai ond nifer isel o bobl ifanc sy’n hunan niweidio sydd yn mynd ymlaen i ladd eu hunain, mae hunan niweidio yn arwydd clir bod rhywun dan risg o ladd ei hunan” felly “dylwn drin y peth yn ddifrifol”.

Gwaeth na Lloegr?

Awgrym adroddiad yr NSPCC yw bod cynnydd yn nifer y plant sy’n cael eu trin mewn ysbytai am hunan niweidio wedi bod yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, ond yn ôl Sally Holland mae’r gymhariaeth yma yn annheg.

“Efallai bod y gwahaniaeth yn fwy eithafol yng Nghymru nag yn Lloegr. Ond dydyn ni ddim yn gwybod hynny … oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod pa awdurdodau Seisnig oedd heb gyfrannu ystadegau … gall fod y broblem yn waeth yn Lloegr hefyd”

“Beth sy’n bwysig yw bod yr ystadegau yn uchel iawn yn Lloegr a Chymru ac wrth gwrs mae hynny yn fy mhryderu i’n fawr”

Ateb i’r Broblem

Gyda “bwlio”, “pwysau i lwyddo” a’r “rhyngrwyd” yn cyfrannu at hunan niweidio mae Sally Holland yn gweld cymorth mewn ysgolion fel ateb i’r broblem.

“Be hoffwn weld fel Comisiynydd yw bod y Gwasanaeth Iechyd yn cydweithio gydag ysgolion a’r broses diwygio cwricwlwm er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn medru gwasanaethu pobol ifanc mewn ysgolion a bod hynny yn rhan normal o’n system addysg.

“Ni ddylai fod gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu darparu mewn clinigau, dylen nhw fod yn cael eu darparu lle mae plant eu hangen nhw a gan amlaf mewn ysgolion mae’r angen hyn”.