Ian Jones
Mae Prif Weithredwr S4C, a gyhoeddodd heddiw y bydd yn gadael y sianel, wedi “sefydlogi” y sianel mewn cyfnod anodd, yn ôl yr actor a’r cynhyrchydd teledu, Iestyn Garlick.

Dywedodd Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) wrth golwg360 y byddai rhai pobol yn “dadlau” yn erbyn y ffordd wnaeth Ian Jones greu sicrwydd i’r sianel, ond bod sefydlogrwydd yn bwysig mewn cyfnod digon cythryblus.

“Mae o wedi bod wrth y llyw mewn cyfnod hynod anodd, dw i’n credu mai’r prif beth gall rhywun ddweud am y cyfnod ydy, mae e wedi creu sefydlogrwydd o fewn y sector ac o fewn y diwydiant,” meddai Iestyn Garlick.

“Nawr, dw i’n siŵr y bydda yna bobol a fyddai’n dadlau am y ffordd y gwnaethpwyd hynny ond y ffaith amdani ydy, pe bai S4C wedi bod yn ansefydlog, mi fydda’r ansefydlogrwydd yna wedi taro pob un cwmni yn y sector.”

Mewn cyfnod tynn ariannol, roedd Ian Jones hefyd wedi sicrhau bod cwmnïau bach teledu yn cael arian, meddai.

“Dw i’n credu hefyd ei gefndir o fel cyd-gynhyrchydd rhyngwladol, dw i’n credu y gallwn ni gyfeirio at uchelfannau fel llwyddiannau Y Gwyll ac ati, oherwydd ei ddiléit o mewn cyd-gynhyrchu rhyngwladol.

“Dydan ni ddim yn dda iawn am werthu ein hunain yng Nghymru yn anffodus, rydym ni’n gweld hynny’n feunyddiol mewn caffis a restaurants – Saeson sy’n rhedeg nhw, dim Cymry.”

“Dyn bonheddig”

Fe wnaeth Iestyn Garlick ganmol cymeriad “bonheddig a phwyllog” Ian Jones a’r berthynas “adeiladol” y mae wedi sicrhau rhwng y sianel a’r BBC.

“Mae’r ffordd mae o wedi mynd o’i chwmpas hi, mae o’n ddyn bonheddig, pwyllog, mae’r ffordd mae o’n delio efo’r BBC.

“Mae’n bwysig iawn bod y berthynas rhwng S4C a’r BBC yn un cadarnhaol, positif, yn enwedig gan fod S4C rŵan yn cael ei hariannu, fel mae’r BBC, o’r ffi drwydded.

“Mae’n bwysig bod y berthynas yna’n gweithio ac yn adeiladol a hefyd, mae ei berthynas o gydag Aelodau Seneddol ac ati hefyd yn bositif.

“Yn sicr, o’m rhan i’n bersonol, fel cadeirydd TAC, mae ei berthynas o ag TAC wastad wedi bod yn adeiladol ac yn gefnogol.

“Wrth gwrs, rydan ni wedi ffraeo ac wedi dadlau ond mae’r ddadl a’r ffraeo yn aros yn y swyddfa, mae’r sgwrs wedyn yn un gyfeillgar eto.

“Bydda’ i’n bersonol yn gweld eisiau ein sgyrsiau ni, naill ai yn y gogledd achos oedd o’n dod yma’n gyson, neu yng Nghaerdydd, neu ar y ffôn.”

Gwagle ar ei ôl?

Ni fydd Ian Jones yn gadael ei swydd tan ddiwedd 2017, felly mae’n “hen ddigon o amser” i gael person newydd, “cywir” wrth y llyw meddai Iestyn Garlick.

Gyda disgwyl adolygiad annibynnol ar y sianel gan Lywodraeth Prydain y flwyddyn nesa’, mae ei gyfnod olaf yn y swydd yn dyngedfennol, yn ôl Iestyn Garlick.

“Dw i’n credu mai’r peth cywir y bydd angen i ni drafod o Ionawr y 1af ymlaen, ydy sut mae delio efo’r adolygiad? Ac yn sicr, mae Ian mewn lle da i fod yn gefnogol i S4C yn ystod y cyfnod hanfodol yna.

“Dyna fydd tasg bwysig, ac o bosib olaf, Ian, ydy ar ôl ei sefydlogi hi, gosod hi yn ei lle fel ei bod hi’n gallu mynd yn ei blaen i mewn i gyfnod Caerfyrddin ac i’r dyfodol.”