Yn dilyn ffrae dros ffurflen y Cynulliad lle nad oedd modd nodi eich bod yn dod o dras Gymreig oni bai eich bod yn berson croenwyn, mae’r sefydliad wedi penderfynu newid ei arolwg.

Cododd y ddadl ar ôl i golwg360 dynnu sylw at y ffaith nad oes modd i bobol sydd ddim yn wyn eu croen nodi eu bod hefyd yn Gymreig ar ymgynghoriad newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Cynulliad bellach wedi anfon datganiad i nodi y byddai’n newid hyn yn dilyn “pryderon a godwyd”.

“Newid ein harolwg”

Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad: “Mae’r ffurflen fonitro Cydraddoldeb sy’n cael ei defnyddio gan y Cynulliad Cenedlaethol wedi’i selio ar gategorïau gan Gyfrifiad 2011 ONS [Swyddfa Ystadegau Gwladol] y Deyrnas Unedig i sicrhau ein bod yn gallu cymharu canlyniadau i boblogaeth Cymru.

“Fodd bynnag, rydym yn deall y pryderon a godwyd a byddwn yn newid ein harolwg a fydd yn galluogi pobol i fynegi ei hunaniaeth genedlaethol a’u grŵp ethnig.

“Mae’r Cynlluniad yn ymrwymedig i sicrhau bod cydraddoldeb yn sail i bob agwedd ar ei waith.”