Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion yn dilyn digwyddiad pan fu dyn 23 oed yn cario llafn ar Stryd Vaenor yn Aberystwyth am 10:29pm neithiwr.

Cafodd yr Heddlu eu galw i’r fan gan aelodau o’r cyhoedd yn pryderu fod dyn yn cario llafn yn gyhoeddus. Cafodd y dyn ei arestio ac mae’n parhau yn y ddalfa.

Mae’r Heddlu yn apelio am wybodaeth i gynorthwyo gyda’u hymholiadau, ac yn gofyn i unrhyw aelod o’r cyhoedd ffonio’r rhif 101 neu ffonio Taclo’rTaclau ar 0800 555 111.

“Hoffai’r Heddlu sicrhau’r cyhoedd mai digwyddiad ynysig oedd hwn ac fe wnaeth swyddogion weithredu’n gyflym i arestio’r unigolyn,” meddai eu llefarydd.