Ian Jones
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd y Prif weithredwr, Ian Jones, yn rhoi’r gorau i’w swydd tua diwedd 2017, yn dilyn cwblhau adolygiad annibynnol o’r Sianel gan Lywodraeth Prydain.

Yn ôl S4C mae Ian Jones yn bwriadu parhau i weithio yn y diwydiant teledu ac am rannu ei amser gwaith rhwng ym Mhrydain a San Francisco ar arfordir Gorllewinol America, lle mae ei bartner wedi ymgymryd â swydd newydd yn ddiweddar.

Dywedodd Ian Jones: “Mae fy chwe blynedd yn S4C yn ddiwedd cyfnod gyda’r sianel sy’n dyddio nôl i ddechrau fy ngyrfa. Mae wedi bod yn gyfnod o newid parhaus, llawn heriau, ac mae wedi bod yn fraint i weithio gyda chriw angerddol a thalentog a rhai o bobl fwyaf talentog y diwydiant.

“Yn 1982 roeddwn yn rhan o’r tîm a lansiodd S4C, cyn ail-ymuno fwy na 30 mlynedd yn ddiweddarach fel Prif Weithredwr. Rwy’n hyderus fod gan y diwydiant cynhyrchu annibynnol yng Nghymru y dalent, yr ymroddiad a’r angerdd i wireddu cam nesaf  hanes S4C. Mi fyddaf wir yn gweld eisiau’r rôl ond yn fwy na hynny fe fyddaf yn gweld eisiau’r bobl.”

Arwain “trwy gyfnod o newid sylweddol”

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Mae Ian wedi arwain S4C trwy gyfnod o newid sylweddol, gydag egni ac ymroddiad. Mae wedi ennill ffydd y diwydiant teledu yng Nghymru, yn ogystal â gwleidyddion o bob plaid, ac wedi bod yn allweddol wrth greu partneriaeth newydd hynod gynhyrchiol gyda’r BBC.

“Mae wedi delio gyda thoriadau ariannol sylweddol, tra’n sicrhau fod y gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd wedi bod o ansawdd uchel iawn. O dan ei arweiniad, mae S4C wedi cymryd camau pwysig wrth ddatblygu presenoldeb ar-lein ac ar draws y Deyrnas Unedig.

“Ryden ni’n falch y bydd yn parhau yn ei swydd er mwyn arwain cyfraniadau S4C i’r adolygiad annibynnol sydd i’w gynnal flwyddyn nesaf, ac mi fydd yr amserlen sydd wedi ei chytuno ar gyfer ei ymadawiad yn rhoi cyfle i’w olynydd i gydio yn yr awenau mewn da bryd ar gyfer yr adleoli i Gaerfyrddin yn 2018.”