Mae yna brosiect newydd ar y gweill i ymchwilio i ddulliau radicaliaeth yng Nghymru yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus yn hanes modern Cymru – rhwng 1962 a 1992.

Fe fydd sylw penodol i ddulliau Byddin Rhyddid Cymru, Meibion Glyndŵr a Chymdeithas yr Iaith a sut y mae radicaliaeth wedi newid dros y blynyddoedd.

Mae’n brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r gobaith yw cyflwyno gwaith mewn arddangosfa yn 2019 i nodi hanner can mlynedd ers arwisgiad Tywysog Cymru.

Radicaliaeth ‘o fewn cyd-destun’

Myfyriwr ymchwil o Brifysgol Aberystwyth, Rhodri Evans, fydd yn cymryd at y gwaith a dywedodd: “Mae’r pwnc hwn wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ar hyd yr amser ac yn un yr wyf yn teimlo’n angerddol yn ei gylch.

“Mae’r mater o gyfranogiad sifil gyda grwpiau ymylol yn bwnc sy’n aml wedi cael ei esgeuluso o ran hanesyddiaeth Cymru ac rwy’n gobeithio y bydd fy ngwaith yn gymorth i daflu goleuni ar weithgareddau oedd yn cael eu hystyried yn filwriaethus ar y pryd, ond o’u gosod yng nghyd-destun heddiw, a fu’n ganolog wrth lunio’r Gymru rydym yn ei hadnabod heddiw.”

Ychwanegodd Dr Rhys Dafydd Jones o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol: “Er bod llawer o’u gweithredoedd yn cael eu hystyried fel rhai radical neu’n eithafol ar y pryd, mae yna, fodd bynnag, angen i ddeall y radicaliaeth hon o fewn cyd-destun ehangach, gyda llawer o’r hyn yr oeddent yn galw amdano megis datganoli gwleidyddol a mwy o hawliau i’r Gymraeg, wedi’u gwireddu ac yn rhan o brif ffrwd cymdeithas a disgwrs yng Nghymru.”