Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn dweud y bydd pobol yn troi yn erbyn Brexit unwaith y byddan nhw’n sylweddoli beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd.

Ac mae’n dweud y byddai yn pleidleisio yn erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond nid yw’r Aelod Cynulliad Annibynnol o blaid cynnal refferendwm arall yn syth, gan ei fod yn meddwl y byddai’r ochr ‘Aros’ yn colli eto.

Mae’n credu bod angen amser ar bobol i ystyried goblygiadau Brexit.

“Dw i’n meddwl bydd newid meddwl mawr eto pan fydd pobol yn sylweddoli canlyniadau beth sydd wedi digwydd,” meddai Dafydd Elis-Thomas wrth golwg360.

“Does yna ddim arwydd eto bod pobol yn fodlon cyfaddef y camgymeriadau y gwnaed a bod angen ail-edrych ar y sefyllfa…. Mae angen amser ar bobol i weld be ydy goblygiadau’r penderfyniad.”

Ond os bydd yna bleidlais ar Brexit yn Nhŷ’r Arglwyddi neu’r Cynulliad, mae Dafydd Elis-Thomas yn bendant y byddai’n pleidleisio yn erbyn gadael.

“Dw i’n cynrychioli ac yn byw mewn ardal a bleidleisiodd i aros,” meddai AC Dwyfor Meirionydd.

“Mi bleidleisiaf yn erbyn… mae pobol yn dweud bod rhaid derbyn barn pobol – os tasen ni wedi derbyn barn y bobol yn [refferendwm datganoli] 1979, buasai gennym ni ddim Cynulliad.

“Mi bleidleisiodd pobol Cymru 4 i 1 yn erbyn datganoli [yn 1979]. Ond o fewn 20 mlynedd, roedd y cyfan wedi digwydd ac wedi gweithio.”

“Cwbl amhosib” Brexitio o fewn dwy flynedd

Yn ôl yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, mae’n “gwbwl amhosib” i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd o fewn dwy flynedd i danio Erthygl 50.

Dywedodd cyn-Lywydd y Cynulliad, sy’n cael ei ystyried yn arbenigwr cyfansoddiadol, ei bod yn debygol y bydd Brexit yn cymryd blynyddoedd i’w weithredu am fod yr achos mor “gymhleth”.

Fe ddywedodd hefyd fod yr holl eirfa ynghylch Brexit yn “ynfyd” ac nad yw’n bosibl creu un ddeddf ‘Brexit’ yn Nhŷ’r Cyffredin o ystyried yr holl feysydd polisi sydd gan yr Undeb Ewropeaidd ddylanwad arnyn nhw yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.

Yr wythnos hon fe wnaeth Aelodau Seneddol bleidleisio o blaid rhoi’r hawl i Lywodraeth Prydain danio erthygl 50 erbyn mis Mawrth 2017. Dim ond 18 mis fydd gan y Deyrnas Unedig i adael Ewrop wedi hynny.

“Mae’n gwbl amhosib,” meddai Dafydd Elis-Thomas.

“Ond beth mae tanio’n ei olygu? Mae’r holl drafodaeth a’r holl eirfa sy’n cael ei ddefnyddio yn hyn yn gwbl ynfyd.

“Mae wedi cymryd hanner can mlynedd i’r berthynas ddeddfwriaethol rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig gael ei sefydlu.”

Theresa May – Prif Weinidog “rhyfedd”

Yn ôl Dafydd Elis-Thomas mae Prif Weinidog Prydain ar fai am ddweud “mai Brexit yw Brexit” heb fynd i fanylu ynghylch yr hyn mae hynny’n ei olygu.

“Pan ddywedodd y Prif Weinidog rhyfedd yna sydd gan y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd mai Brexit yw Brexit, wel pe bai myfyriwr yn dweud hwnna wrtha’ i pan oeddwn i’n dysgu llenyddiaeth neu athroniaeth, fe fydden i wedi dweud: ‘Dyw’r frawddeg yna ddim yn gwneud synnwyr’, oherwydd mae’n rhaid i chi ddiffinio’ch geirfa.

“Maen nhw wedi methu â diffinio eu geirfa ers hynny.

“Byddai gosod cynnig gerbron y Tŷ’r Cyffredin ddim yn ddigon yn gyfansoddiadol oherwydd allwch chi ddim diwygio llu o ddeddfau drwy un cynnig Seneddol. Mae hwnna’n nonsens llwyr,” meddai Dafydd Elis-Thomas.

“Mae newid deddf yn golygu bod rhaid i chi roi gwelliannau i’r ddeddf a newid hi yn y ffordd yna, diddymu rhan ohoni ac ychwanegu ati.”

Stori: Mared Ifan