O'r Trysorlys y bydd y rhan fwya' o'r arian yn dal i ddod (Carlos Delgado CCA 3.0)
Fe ddylai Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig greu trefn newydd i roi sicrwydd ariannol i Gymru ar ôl i rai trethi gael eu datganoli.

Dyna argymhelliad dau o’r prif gyrff sy’n astudio trefn llywodraeth yng Nghymru sy’n dweud bod y trafodaethau sy’n digwydd ar hyn o bryd rhwng y ddwy lywodraeth yn gyfle i greu trefn fwy teg a sefydlog.

Y peryg, fel arall, yn ôl adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru a’r Sefydliad Astyudiaethau Cyllid yw fod yr arian sy’n dod i Gymru trwy Fformiwla Barnett yn cael ei wasgu wrth i wario Prydeinig newid ac wrth i faint y boblogaeth amrywio.

Ateb y Ganolfan yw trefn lle byddai gwario y pen yng Nghymru yn gyson ar 115% o’r gwario y pen trwy wledydd Prydain – y lefel angen oedd wedi ei nodi gan Gomisiwn Holtham – neu ychwanegu elfen angen sy’n gallu amrywio’n gyson wrth i amgylchiadau newid.

Y wasgfa ar Fformiwla Barnett

Yn ôl yr adroddiad, ‘Barnett Squeezed?: Options for a Funding Floor after Tax Devolution’, hyd yn oed ar ôl datganoli rhai trethi ym mis Ebrill 2018, fe fydd y rhan fwya’ o gyllid Llywodraeth Cymru yn parhau i ddod o grantiau bloc o’r Trysorlys Prydeinig trwy Fformiwla Barnett.

Er bod canran Cymru o wario cyhoeddus wedi codi wrth i’r toriadau gwario cyhoeddus gydio, fe fydd y gyfran yn lleihau eto wrth i wario cyhoeddus gynyddu ac fe allai hynny, medden nhw, achosi gwasgfa.

Fe fyddai cyfran cymharol Cymru’n lleihau hefyd pe bai’r boblogaeth yma’n cynyddu’n gynt.

Erbyn 2015-16, am bob £100 cafodd ei wario y pen yn Lloegr ar faterion sydd wedi’u datganoli i Gymru, fe gafodd Llywodraeth Cymru tua £120 y pen.

Y ffigwr o £115 y pen sy’n cael ei awgrymu yng Nghomisiwn Holtham.

Tri opsiwn posib

Mae’r adroddiad yn awgrymu tri opsiwn gwahanol i addasu Fformiwla Barnett:

  • Sylfaen Barnett Syml: Arian ychwanegol i Gymru os bydd arian y pen yn gostwng yn is na 115% o’r lefel yn Lloegr.
  • Ffactor Anghenion Barnett Sefydlog: Arian ychwanegol i Gymru drwy Barnett yn cael ei luosi gan ‘ffactor anghenion sefydlog’ [e.e. 115%].
  • Ffactor Anghenion Barnett Amrywiol: Cyflwyno ffactor anghenion sy’n cael ei ddiweddaru o hyd i adlewyrchu twf mewn poblogaeth a gwariant er mwyn sicrhau cysondeb.

“Mae’r ffaith bod gwariant cymharol y pen yng Nghymru yn newid mor aml yn dangos gwendid sylfaenol Fformiwla Barnett – mae lefelau gwariant y pen ledled gwledydd y DU yn fympwyol ac o ganlyniad i ddamwain hanesyddol,” meddai Ed Poole o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Mae’r trafodaethau sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn gyfle i gydnabod y lefel uwch o anghenion yng Nghymru ac osgoi bygythiad ‘Gwasgfa Barnett’ rhag digwydd yn y dyfodol.”