Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont (Mick Lobb CCA2.0)
Dod â’r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau gofal yn nes at ei gilydd yw’r ateb tymor hir i broblemau prysurdeb ysbytai yn ystod y gaeaf, meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Ac maen nhw’n honni bod rhy ychydig o staff ysbytai wedi cael brechiad rhag y ffliw gan ddweud bod delio â hynny hefyd yn flaenoriaeth.

Mae’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn helpi atal pobol rhag mynd i’r ysbyty yn y lle cynta’ ac yn eu helpu i wella’n iawn ar ôl dod gartref, meddai’r y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon mewn adroddiad newydd.

Wrth gydnabod bod y Llywodraeth wedi rhoi £50 miliwn ychwanegol at ddelio gyda phroblemau arbennig y gaeaf, maen nhw’n galw ar weinidogion i fod yn fwy “uchelgeisiol”.

Y targedau

Mae’r pwyllgor wedi cyflwyno naw argymhelliad i Lywodraeth Cymru gan gynnwys galw arnyn nhw i:

  • sicrhau rhagor o integreiddio rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cynllunio a darparu gwasanaethau;
  • sicrhau trefniadau i ddadansoddi pa mor effeithiol yw ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru o ran iechyd yn nhymor y gaeaf, a chyhoeddi’r canlyniadau’n brydlon;
  • adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ddiwedd y chwarter nesaf â manylion y cynnydd a wnaed yn erbyn y targedau a’r buddsoddiad o £50 miliwn.

‘Mwy uchelgeisiol’

“Mae’n amlwg bod cynnydd sydyn a thymhorol yn y galw, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, sy’n rhoi system sydd eisoes yn gweithio i’w heithaf o dan ragor o straen,” meddai Dai Lloyd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor.

“Fel mater o flaenoriaeth, rydym am weld ffocws amlwg ar integreiddio’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y modd y maent yn cynllunio a darparu gwasanaethau.

“Rydym hefyd yn pryderu bod cyn lleied o staff wedi cael brechiad y ffliw, gan fod y brechiadau hynny’n allweddol wrth gynnal gwasanaethau ar adegau o bwysau mawr.

“Hoffem weld Llywodraeth Cymru a’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn gosod targedau sy’n fwy uchelgeisiol yn hyn o beth, ynghyd ag asesu eu hymgyrchoedd cyhoeddusrwydd.”