Mae un oo bob deg trosedd yng Nghymru yn ymwneud â thrais domestig, yn ôl ffigurau swyddogol.

Mae adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu fod cyfradd trais yn y cartref yng Nghymru yn uwch na rhanbarthau fel Llundain, gogledd-ddwyrain Lloegr a Swydd Efrog ac ymhlith y mannau gwaetha’.

Mae’r ffigurau’n frawychus, meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar wasanaethau cymdeithasol yn y Cynulliad.

Ystadegau

Yn ôl y ffigurau, roedd 12% o’r troseddau yng Nghymru rhwng Ebrill 2015 a mis Mawrth eleni yn ymwneud â thrais yn y cartref.

Mae hynny’n golygu mwy na 22,000 o droseddau, gyda mwy na 17,000 ohonyn nhw’n rhai treisgar, a mwy na’u tri chwarter wedi’u harwain at erlyniadau llwyddiannus.

Ar draws Cymru, mae’r adroddiad yn nodi bod 72,000 wedi diodde’ trais domestig o gymharu â 34,000 o ddynion.

Yn yr un cyfnod, cafodd 18 o bobol eu lladd yng Nhymru oherwydd digwyddiadau treisiol yn y cartref.

‘Brawychus’

“Mae’r data yn wirioneddol frawychus ac yn dangos yn hollol bod y broblem o gam-drin domestig yn fwy cyffredin yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig,” meddai Suzy Davies, Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig.

“Wrth i Gymru ddatblygu ei chwricwlwm ysgol ei hun, yn sicr mae lle ynddo i helpu pob plentyn sy’n tyfu i fyny i wybod beth ydy hanfod perthynas iach.”

Dywedodd 1.8 miliwn o oedolion rhwng 16 a 59 oed eu bod wedi diodde’ o drais yn y cartref y llynedd ar draws Cymru a Lloegr.