Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau i gorff menyw gael ei ganfod yn Llandudno nos Fercher.
Mae’r crwner wedi cael gwybod am y darganfyddiad ar Draeth y Gogledd.
Mae’r ddynes wedi’i hadnabod yn ffurfiol fel Wendy Balaam, 65 oed. Roedd hi wedi bod a goll o’i chartre’ ers yn gynharach yn y dydd.
Dyw Heddlu Gogledd Cymru ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.