Does dim modd nodi eich bod yn dod o dras Gymreig os nad ydych yn berson croenwyn, yn yr ymgynghoriad ar newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol.

Ar ddiwedd y ffurflen ymgynghori, mae gofyn i bobol nodi eu cefndir ethnig – ond o’r rhestr lu o gefndiroedd gwahanol, allwch chi ddim ond nodi eich bod o dras Gymreig os ydych chi hefyd yn wyn.

I bobol o dras wahanol, fel pobol ddu, Asiaidd neu Tsieineaidd, does dim modd nodi eich bod hefyd yn cyfri’ch hun yn Gymreig neu’n Wyddelig.

Mae modd nodi ar y ffurflen eich bod yn dod o “unrhyw gefndir Asiaidd, du neu Tsieineaidd arall”. Mae opsiwn ‘Arall’ gall bobol ei lenwi ar y ffurflen hefyd.

Cafodd yr ymgynghoriad ar newid enw’r Cynulliad ei agor heddiw gan y Llywydd, Elin Jones, gan fod pwerau’r corff yn cynyddu a’i bod felly’n ennyn statws mwy pwysig.

Y dewisiadau enw yw naill ai ‘Cynulliad’, ‘Senedd’ fel enw dwyieithog,  neu ‘Parliament’ yn Saesneg.

‘Ffurflen ONS’

“Mae’r ffurflen fonitro Cydraddoldeb sy’n cael ei defnyddio gan y Cynulliad Cenedlaethol wedi’i selio ar gategorïau gan gyfrifiad 2011 ONS [Swyddfa Ystadegau Gwladol] y Deyrnas Unedig i sicrhau ein bod yn gallu cymharu canlyniadau i boblogaeth Cymru,” meddai llefarydd ar ran y Cynulliad.

“Mae’r Cynlluniad yn ymrwymedig i sicrhau bod cydraddoldeb yn sail i bob agwedd ar ein gwaith a dyna pam ein bod wedi cynnwys monitro data fel rhan o’r ymgynghoriad hwn ledled Cymru.”