Mae Cynulliad Cymru wedi dechrau ymgynghoriad i newid ei enw er mwyn ‘adlewyrchu cynnydd mewn pwerau a statws’.

Bydd y Cynulliad yn cael cyfres newydd o bwerau ar ôl i Fesur Cymru gael ei basio, sy’n cynnwys hawliau i ddeddfu ar dreth incwm, pwerau dros ddŵr, cyfyngiadau cyflymder, ffracio, porthladdoedd ac etholiadau, gyda’r hawl i newid yr oedran pleidleisio o 18 i 16 oed.

Bydd hefyd yn cael statws Senedd go iawn am y tro cyntaf erioed, gan y bydd yn cael ei gyfri fel deddfwrfa genedlaethol.

Mae’r pŵer i newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol yn dod dan Fesur Cymru hefyd, sy’n debygol o ddod yn ddeddf ar ddechrau’r flwyddyn newydd.

Ym mis Gorffennaf eleni, cytunodd y Cynulliad Cenedlaethol yn unfrydol “dylai’r Cynulliad newid ei enw i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol”.

Y dewis yn yr ymgynghoriad sy’n cael ei agor heddiw fydd yr enw “Senedd” neu “Cynulliad.”

Pobol Cymru ‘ddim yn deall’ rôl y Cynulliad

“Mae’r ffaith bod datganoli yng Nghymru yn symud mor gyflym yn golygu nad yw’r cyhoedd bob amser yn gwybod beth yw rôl y Cynulliad na’r materion y mae ganddo gyfrifoldeb drostynt,” meddai Llywydd y Cynulliad, Elin Jones.

“Mae’r niferoedd sy’n pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol, arolygon cyhoeddus a gwybodaeth sy’n cael ei chasglu drwy ein gwaith ymgysylltu yn dangos nad oes llawer yn deall beth y mae’r Cynulliad yn ei wneud a beth yn union yw ei bwerau.

“…. Rydyn ni’n gwybod nad yw pobl Cymru yn llwyr ddeall rôl a phwerau’r Cynulliad ar hyn o bryd. Felly mae’n amlwg i fi bod angen gwneud rhagor i helpu pobl i ddeall rôl y Cynulliad fel sefydliad democrataidd cenedlaethol a sut y mae’n wahanol i Lywodraeth Cymru.

“Rwyf eisiau i’r sefydliad hwn ennyn hyder, ymddiriedaeth a balchder yn y bobl y mae’n eu gwasanaethu. Ni fydd hyn yn digwydd drwy newid enw yn unig, ond rwy’n credu y bydd yn chwarae rhan bwysig.”

Mae’r ymgynghoriad ar gael ar-lein ac mae modd hefyd ffonio llinell wybodaeth y Cynulliad, ar 0300 200 6565, i gael copi drwy’r post.