Mae heddweision ledled Cymru a Lloegr yn wynebu cyhuddiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn gweithwyr rhyw, alcoholiaid a phobol sy’n gaeth i gyffuriau, yn ôl Arolygiaeth Heddluoedd ei Mawrhydi.

Mae’r honiadau yn cael eu disgrifio gan y corff goruchwilio fel y “rhai mwyaf difrifol o lygredd sy’n wynebu’r gwasanaeth”.

Mae lluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi derbyn 436 o adroddiadau o gamddefnyddio pwer er mwyn ennill mantais rywiol yn erbyn 306 o swyddogion heddlu; 20 yn erbyn swyddogion cefnogi cymunedol; ac yn erbyn wyth o aelodau o staff eraill yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd yn arwain at fis Mawrth 2016.

Ond mae’r corff goruchwilio yn credu fod y broblem yn fwy cyffredin nac y mae’r ffigurau yn ei ddangos.

Dim ond 40 swyddog neu staff sydd wedi cael eu diswyddo am gam-drin yn yr un cyfnod.

“Dyma’r llygredd mwya’ difrifol sy’n wynebu’r gwasanaeth,” meddai’r Arolygydd Mike Cunningham, cyn-Brif Gwnstabl Heddu Swydd Stafford sy’n arwain yr ymchwiliad diweddara’ hwn.

“Beth all fod yn waeth na gofalwr yn camdrin ymddiriedaeth mewn unigolyn sydd wedi’i gam-drin? Ni fedrwch gael gwaeth trosedd yn erbyn ymddiriedaeth gyhoeddus.”