Llong y Lancastria (Llun: Wikipedia)
Mae dynes o Drefach, Llanybydder yn cefnogi’r alwad am gydnabyddiaeth swyddogol gan San Steffan fod trychineb anferth wedi digwydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac wedi’i guddio gan y Llywodraeth.

Ar wefan gymunedol Clonc360 yn ardal Llanbed, mae Yvonne Davies yn galw am gefnogaet i ddeiseb sydd wedi’i sefydlu gan ddyn o’r enw David Dalrymple.

Fe fydd rhaid casglu 10,000 o lofnodion cyn bod modd i ystyried yr achos, a 100,000 o lofnodion cyn bod modd cynnal dadl seneddol ar y mater.

Dim ond dwy flynedd yn ôl y clywodd y Gymraes, Yvonne Davies, am y trychineb, a hynny ar ôl amau bod manylion ei hewythr ar y gofgolofn yn anghywir.

Mae ei hewythr Myrddin wedi’i goffáu ar gofgolofn Cwmann ar ôl colli ei fywyd yn yr Ail Ryfel Byd ac roedd y teulu wedi cael ar ddeall ei fod e wedi cael ei saethu i lawr gan awyren ar Fehefin 17, 1940, a’i fod e wedi’i gladdu yn Vendee.

Be’ ddigwyddodd i’r llong?

Cafodd ei tharo a’i suddo gan fom ym mhorthladd St Nazaire, gan ladd mwy o bobol nag a gafodd eu lladd ar fwrdd y Titanic, y Lusitania a’r Empress of India gyda’i gilydd.

Roedd y Lancastria i fod i gludo 2,200 o bobol, ond roedd y ffigwr yn nes at 9,000 yn y pen draw. Dim ond tua 2,500 o bobol a gafodd eu hachub, ac fe fu farw’r gweddill.

Mae’r digwyddiad yn destun y Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol hyd at 2040.

“Mae yna ddeiseb ar-lein yn ceisio cael y Llywodraeth i gydnabod fod y trychineb hwn wedi digwydd,” meddai Yvonne Davies.  “Faint o’r teuluoedd fydd ar ôl i gofio erbyn 2040?”

Mae modd llofnodi’r ddeiseb ar lein.