Mae’r Cofi a ddaeth yn Gwnsler Cyffredinol cynta’ Cymru, yn sôn pam mai poster o Lloyd George oedd ganddo ar wal ei swyddfa ym Mae Caerdydd – a’r un llun ar y wal yn ddiweddarach, pan gafodd ei ethol yn Gomisiynydd cynta’ Heddlu a Throsedd gogledd Cymru.

Yn ôl Winston Roddick, roedd y ffaith bod Lloyd George yn “un o’r bobol” yn allweddol i’w lwyddiant fel gwleidydd. Ac roedd y ffaith ei fod yn eiriolwr – yr unig gyfreithiwr i fod yn Brif Weinidog – yn allweddol i’w allu i ddwyn perswad ar bobol o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ac ar lawr Ty’r Cyffredin.

“Roedd o’n un ohonan ni,” meddai Winston Roddick wrth golwg360, gan mlynedd i’r diwrnod ers y daeth David Lloyd George yn Brif Weinidog Prydain. “Dyna’r peth mwya’ oeddech chi’n ei weld yn LG… dyna pam oedd o’n cael cymaint o gefnogaeth y bobol gyffredin… ac mae’i gyfraniad o’n profi mai dyna beth oedd o…

“Mae gen i’r Spy cartwn, ‘Welsh Non-Conformist Genius’, mae’r gwreiddiol gen i, a hwnnw oedd ar wal fy swyddfa pan apwyntiwyd fi yn Gwnsler Cyffredinol cynta’ Cymru… roedd o ar fy wal i fy atgoffa i, ac i fy annog i, i fod yn radical. A dydi bod yn radical ddim yn hawdd ym myd y gyfraith.”

Mae Winston Roddick i’w glywed yn siarad am “LG” yn y clip hwn:

Lloyd George, y datganolwr

Byddai Lloyd George “wedi bod yn gryf iawn o blaid datganoli”, meddai Winston Roddick. “Fo osododd yr hedyn yn y tir… bod gan Gymry hunaniaeth a bod angen cydnabod hyn”.

Ac efallai, meddai Winston Roddick wedyn, efallai y byddai’r model o ddatganoli a fyddai gan Gymru yn un gwell na’r model presennol.

Oherwydd nid annibyniaeth oedd yn mynd â bryd Lloyd George, ond ffederaliaeth – model oedd yn cydnabod y gwahaniaethau rhwng y gwledydd a’r cenhedloedd oddi fewn i ‘Brydain’.

Mae Winston Roddick yn trafod hyn yn y clip nesa’ hwn: