Mae mesurau newydd wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio atal achosion o ffliw adar.

Bydd y rheolau newydd mewn grym am 30 diwrnod drwy Gymru gyfan wrth i nifer o wledydd Ewrop gael eu heffeithio gan ffliw H5N8.

Mae’r mesurau’n cynnwys cadw dofednod ac adar eraill dan do, neu ar wahân oddi wrth adar gwyllt.

Does dim achosion yng ngwledydd Prydain hyd yma, ond mae mesurau tebyg wedi cael eu cyflwyno yn Lloegr a’r Alban.

Mae Llywodraeth Cymru’n monitro’r sefyllfa, gan annog ceidwaid adar i fod yn wyliadwrus ac i gadw at y mesurau.

Dim achosion hyd yma

“Er nad oes unrhyw achosion o ffliw adar H5N8 wedi’u canfod yn y DU, rydw i wedi datgan Parth Atal am 30 diwrnod i leihau’r risg o haint gan adar gwyllt ac i roi amser i geidwaid dofednod ac adar caeth roi mesurau bioddiogelwch priodol yn eu lle,” meddai Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

“Mesur rhag ofn ydi hwn. Rydyn ni’n monitro’r sefyllfa ledled Ewrop ac wedi cynyddu’r oruchwyliaeth mewn ymateb i’r risg uwch.”

Cyngor gan y Prif Filfeddyg

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossopm yn cynghori’r rheiny sy’n cadw dofednod i “fod yn wyliadwrus” am unrhyw arwyddion o afiechyd yn eu hadar ac unrhyw adar gwyllt, ac i geisio cyngor prydlon gan eu milfeddyg os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon.

“Hyd yn oed pan mae adar yn cael eu cadw dan do,” meddai, “mae risg fechan o haint o hyd, felly rhaid cynnal yr holl fesurau bioddiogelwch. Dylid dadheintio offer a dillad, dylid lleihau symudiad dofednod a dylid lleihau’r cyswllt rhwng dofednod ac adar gwyllt.”