Mae Plaid Cymru wedi dewis actores ac ymgyrchwraig i sefyll ym Mhen-y-groes, wedi i’r cyhoeddiad ddod yn swyddogol ddoe fod y Cynghorydd Dyfed Edwards yn rhoi’r gorau iddi ym mis Mai.

Judith Humphreys, a symudodd i fyw i’r pentre’ yn Nyffryn Nantlle 16 mlynedd yn ôl, fydd yn cynrychioli’r blaid yn yr etholiad i fod yn gynghorydd sir. Mae’n byw ar gyrion yn pentre’ gyda’i gwr, yr academydd Jerry Hunter, a’i dwy o ferched yn eu harddegau.

Fel yr oedd y newydd am ymadawiad Dyfed Edwards yn cael ei gyhoeddi brynhawn ddydd Mawrth,roedd taflenni Judith Humphreys yn cael eu dosbarthu trwy ddrysau tai Pen-y-groes, yn ei chyflwyno fel yr ymgeisydd newydd.

Fe fyddai’n “fraint” cael cynrychioli’r pentre’ ar Gyngor Gwynedd, meddai Judith Humphreys, ac mae’n derbyn cefnogaeth yr Aelod Cynulliad, Sian Gwenllian, ar y daflen.

Fe ymddangosodd Judith Humphreys yn ffilmiau Hedd Wyn a Storom Awst yn y 1990au, ond yn fwy diweddar mae wedi bod yn gweithio gyda grwpiau cymunedol fel Codi’r To a Cofis Bach yng Nghaernarfon.