Welsh Whisperer
Mae BBC Cymru wedi cadarnhau y bydd rhai o leisiau newydd a gafodd gyfle i ddarlledu fel rhan o arbrawf ‘Radio Cymru Mwy’ yn cael y cyfle eu cyflwyno ar yr orsaf draddodiadol yn y flwyddyn newydd.

Mae’r rhain yn cynnwys y digrifwr Welsh Whisperer o Sir Gaerfyrddin fydd yn cyflwyno ar nosweithiau Gwener; a’r DJ o Gaerdydd Elan Evans a fydd i’w chlywed ar y tonfeddi erbyn yr haf.

Mae cyfnod prawf y gwasanaeth radio digidol, Radio Cymru Mwy, yn dirwyn i ben ym mis Ionawr.

Ond mae BBC Cymru wedi cadarnhau y bydd elfennau o’r gwasanaeth yn parhau fel pop-yp ar y prif wasanaeth yn ystod 2017, gydag ambell pop-yp ar-lein o dro i dro hefyd.

Maen nhw eisoes wedi cadarnhau y bydd un pop-yp ar-lein yn cael ei ddarlledu ar noson olaf Eisteddfod yr Urdd 2017 a’r gig ar y maes.

Pa wersi?

“Mae’n naturiol hefyd, wrth i ni gyrraedd y cyfnod olaf yma i wrandawyr ofyn beth ry’n ni wedi ei ddysgu o’r peilot?,” meddai Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru.

“Mae rhai o’r gwersi yn amlwg; ar yr ochr dechnegol ry’n ni wedi cael cyfle i ail-osod gwifrau a chreu cysylltiadau ond hefyd i ddeall ble mae’r gwendidau technegol o hyd, neu’r costau’n fwrn.”

“O ran y gwersi eraill, mae angen i ni bwyso a mesur, holi, gwrando ac  adolygu yn erbyn sawl maen prawf pan ddaw’r flwyddyn newydd,” meddai wedyn.

“Yn sicr mi fyddwn yn trafod rhai o’r casgliadau hynny yn ystod y flwyddyn o ddathlu ac arloesi sydd o’n blaenau.”

Dathlu 40

Mae BBC Radio Cymru yn dathlu deugain mlynedd ers ei sefydlu ar 3 Ionawr 2017.

I ddathlu, fe fydd rhai o leisiau gwreiddiol yr orsaf, sef Hywel Gwynfryn a Gwyn Llywelyn, yn dychwelyd i Radio Cymru y bore hwnnw i nodi’r achlysur gyda phytiau o’r bore cyntaf yn cael eu hailddarlledu.

Sylwadau

Mae BBC Cymru yn galw ar wrandawyr i leisio eu barn am wasanaeth Radio Cymru cyn Ionawr 3 drwy anfon sylwadau at dweudmwy@bbc.co.uk.

Cafodd yr orsaf dros dro ei lansio ym mis Medi a’i threialu am gyfnod o dri mis gyda chyflwynwyr newydd yn cymryd yr awenau rhwng 7 a 10 y bore yn ystod yr wythnos waith.