Mae Gwasanaeth Tân De Cymru wedi diffodd tân ger adeilad adnabyddus yng Nghaerdydd.
Cafodd pedwar injan dân eu hanfon i ddelio â’r tân tu allan i adeilad y Gaiety yn Heol y Ddinas yng Nghaerdydd, a oedd yn arfer bod yn sinema ac ali fowlio.
Cafodd pedwar tŷ teras eu heffeithio gan fwg ond nid oedd unrhyw ddifrod i adeiladau o ganlyniad i’r tân.
Yn ôl Gwasanaeth Tân De Cymru, cafodd y tân ei gynnau’n fwriadol.
Bu’n rhaid i wasanaethau Bws Caerdydd yn yr ardal gael eu harallgyfeirio ac fe gaewyd yr heol rhwng Heol Albany a Stryd Northcote am gyfnod.
Sinema
Roedd y Gaiety yn arfer bod yn sinema, neuadd bingo, bar ac ali fowlio cyn ei chau yn 2006 pan ddaeth y busnes yn anghynaladwy.
Cafodd yr adeilad art deco nodweddiadol ei agor yn 1912 ond mae bellach yn adfeiliedig.