Paul Nuttall yn cwrdd a Neil Hamilton, Mark Reckless a Caroline Jones o UKIP yn y Cynulliad (Llun:Golwg360)
Mae arweinydd newydd UKIP wedi dweud y bydd penderfyniad wedi’i wneud cyn y Nadolig ynglŷn ag a ddylai Nathan Gill barhau i gyflawni dwy swydd – fel Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Ewropeaidd.

Heddiw oedd y tro cyntaf i Paul Nuttall ymweld â grŵp UKIP yng Nghymru yn y Cynulliad ers iddo gael ei benodi i’w rôl gan olynu Nigel Farage yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Paul Nuttall nad ydyw wedi cynnal trafodaethau â Nathan Gill eto sy’n sefyll fel Aelod Cynulliad Annibynnol, ond mae’r Arweinydd yn gobeithio’i gyfarfod yn Strasbwrg yr wythnos nesaf.

“Yna byddwn ni’n dod yn ôl i’r Cynulliad ac yn cael trafodaethau pellach,” meddai Paul Nuttall.

“Dw i ddim yn hoffi gweld neb yn gadael UKIP mewn unrhyw ffordd, mae’r rhain yn drafodaethau sy’n parhau…

“Bydda i’n gwybod lle mae Nathan yn sefyll ar hyn yr wythnos nesa’, wrth gwrs, byddwn ni’n cymryd penderfyniad a bydd gennym ni benderfyniad cyn y Nadolig,” meddai wedyn.

‘Uno’r blaid’

Chwe Aelod Cynulliad sydd gan UKIP yn y Senedd erbyn hyn a neges Paul Nuttall wrthynt oedd ei fod am “ddod â’r blaid yn ôl at ei gilydd.”

“Dw i wedi dod yma i ddangos undod, nes i sefyll ar blatfform o undod yn ystod fy etholiad…

“Mae’n amser nawr i wella’r rhaniadau, symud ymlaen a sicrhau bod UKIP yn symud ymlaen at bethau hyd yn oed yn fwy a gwell.”