Arglwydd Roberts o Landudno
Fe fyddai Lloyd George yn “reit hapus” efo’r modd y mae plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn sefyll yn gadarn ar faterion Ewrop, heddwch a mewnfudwyr heddiw, yn ôl yr Arglwydd Roberts o Landudno.

Gan gydnabod fod y blaid wedi diodde’ ergydion mawr yn ystod y blynyddoedd diwetha’, mae Roger Roberts yn dweud fod egwyddorion yr hen blaid Ryddfrydol yn dal i apelio – fel y gwnaeth i etholwyr Richmond Park yn ne orllewin Llundain yr wythnos ddiwetha’, pan gollodd y Ceidwadwr, Zac Goldsmith, ei sedd i Sarah Olney.

“Y ei gyfnod o (Lloyd George), pan etholwyd o, oedd yna ddim ond y Torïaid a’r Rhyddfrydwyr,” meddai Roger Roberts wrth golwg360.

“Ac rydan ni wedi dysgu llawer iawn. Mae yna weledigaeth ganddon ni… a diolch am hynny. Dw i’n meddwl y byddai Lloyd George yn reit fodlon ar hynny.”

Gwrandewch ar yr Arglwydd Roberts o Landudno yn y clip hwn:

Dylanwad y Dewin

Mae  Roger Roberts hefyd yn sôn am y modd y cafodd Lloyd George ddylanwad mawr arno, er na wnaeth erioed weld y dyn ei hun.

Ond fe gafodd yr Arglwydd Roberts o Landudno ei eni ym mis Ebrill 1935 – blwyddyn yr etholiad ola’ un i Lloyd George ei ymladd.

Yn y clip hwn, mae’n sôn am y cysylltiadau a’r dylanwadau: