Steffan Rhys Hughes, (Llun: Yr Urdd)
Enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel, Steffan Rhys Hughes, yw aelod diweddaraf ensemble lleisiol Only Men Aloud.

Mae’r tenor 22 oed o Landyrnog, Sir Ddinbych eisoes wedi gwneud ei farc ar lwyfannau eisteddfodau Cymru a hefyd wedi bod yn arwain Aelwyd y Waun Ddyfal yng Nghaerdydd.

Derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn Cerdd o Brifysgol Caerdydd yn 2015 ac fe aeth ymlaen i ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn Y Stiwt, Rhosllannerchrugog fis Hydref.

Ni fydd yn cymryd lle un o aelodau presennol Only Men Aloud a bydd y grŵp yn parhau i berfformio fel grŵp wyth llais, dan arweiniad Tim Rhys Evans.

Dywedodd Only Men Aloud, a gafodd lwyddiant ysgubol ar ôl ennill sioe’r BBC Last Choir Standing, eu bod yn “edrych ymlaen at berfformio hefo Steffan mewn pennod newydd”.