Dyfed Edwards
Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, wedi cadarnhau na fydd yn arwain y Cyngor ar ôl etholiadau’r cynghorau ym mis Mai.

Ag yntau’n Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn y Cyngor, dywedodd na fydd yn sefyll eto fel cynrychiolydd etholaeth Penygroes, lle mae wedi bod yn gynghorydd am ddeuddeg mlynedd.

Ym mis Mai, ef fydd yr Arweinydd i wasanaethu am y nifer mwyaf o flynyddoedd yng Ngwynedd, a hynny wedi iddo gael ei ethol i’r rôl yn 2008.

“Rwyf yn ei gyfrif yn fraint fy mod wedi cael y cyfle i gynrychioli cymuned Penygroes a bod yn Arweinydd y Cyngor am bron i ddegawd,” meddai Dyfed Edwards.

‘Cyffrous’

“Mae’r blynyddoedd wedi bod yn rhai cyffrous iawn, yn lleol ac yn genedlaethol,” meddai.

“Gyda’r daith ddatganoli yn parhau dwi wedi rhoi pwyslais mawr ar sicrhau ein bod yn cydweithio gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cymru yn San Steffan.”

Cyfeiriodd yn benodol at bolisïau o ran y Gymraeg, Siarter Iaith Ysgolion, tai, addysg a gofal y mae’n falch ohonynt.

“Mae’r cais ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd yn unigryw gan ei fod yn cwmpasu’r diwydiant llechi drwy Wynedd gyfan ac eisoes yn dal dychymyg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

“…ar yr un pryd rydym wedi cofio ein cyfrifoldeb i gyd-ddyn wrth groesawu teuluoedd o ffoaduriaid o Syria a phlant sydd wedi dianc o drais a rhyfel.”

Cyfeiriodd hefyd at fuddsoddiadau o fewn y sir gan gynnwys Plas Heli, Pwllheli; Storiel, Bangor; Pont Briwet, Penrhyndeudraeth ac Ysgol Bro Llifon, Y Groeslon.

‘Angerdd’

“Yr hyn sydd wedi fy ngyrru ydi fy angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol a’r Gymraeg gan weithredu mewn modd sydd yn amlygu’r cysylltiad agos rhwng y ddau.

“Rwyf yn optimistaidd am y dyfodol ac yn obeithiol bydd Gwynedd yn parhau wrth wraidd adeiladu’r Gymru Newydd,” ychwanegodd.