Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn o Fro Morgannwg fu farw wedi digwyddiad mewn fflat yng Nghaeredin ddydd Gwener.

Bu farw Ashley Hawkins, 32, o’r Barri yn y fflat yn Stryd yr Alban tua 5.30 y bore ddydd Gwener, 2 Rhagfyr.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Alexander sy’n arwain yr ymchwiliad i’w farwolaeth: “Mae hyn yn ddigwyddiad trasig ac mae ein meddyliau gyda theulu Ashley yn ystod y cyfnod yma.

“Rydym yn parhau i ymchwilio i farwolaeth Ashley. Rwy’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai ein helpu, neu oedd yn ardal Stryd yr Alban yn gynnar fore Gwener, i gysylltu â ni.”

Mae Kieran Davies, 28 oed, o Ynys y Barri  wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

Mewn teyrnged i Ashley Hawkins dywedodd ei deulu ei fod “yn fab, brawd ac ewythr cariadus ac mae ein calonnau wedi torri’n ddarnau.

“Roedd yn barod i helpu pawb ac yn cael ei garu yn ei dref enedigol y Barri.”