Bae Caerdydd
Mae cynlluniau ar gyfer cyfleuster newydd gwerth £11 miliwn gan y Llynges Frenhinol ym Mae Caerdydd wedi cael eu cyhoeddi.

Bydd y buddsoddiad yn caniatáu i’r Llynges godi canolfan hyfforddi fodern i hyfforddi milwyr wrth gefn a darparu’r lluoedd morol hefo digon o aelodau am yr hanner canrif nesaf.

Bydd wedi’i leoli drws nesaf i brif fynediad diogelwch y doc.

Mae’r prosiect yn cael ei gynnal gan Asiantaeth y Lluoedd wrth gefn a Chadetiaid Cymru ac Uned Prifysgol y Llynges Frenhinol – sydd wedi cynnig les hir dymor ar y safle yn y bae.

Dywedodd y Cadlywydd Steve Fry: “Fe fydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn darparu cyfleoedd gwych i’r milwyr wrth gefn. Mae’r safle mewn lleoliad perffaith i gyrraedd ein hanghenion ac yn rhoi potensial go iawn i ni ffynnu.”

Mae’r cais cynllunio yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd, ac mae disgwyl i waith ddechrau ar y safle’r flwyddyn nesaf.